Ar gyfer Busnesau
Ewch i’r afael â’r dyfodol, gyda hyfforddiant technoleg glyfar dan arweiniad diwydiant sy’n cyd-fynd ag anghenion eich busnes.
Yn hyblyg, yn gryno ac yn ymarferol, mae ein cyrsiau hyfforddi wedi’u llunio i weddu i’ch pobl a’ch nodau. Drwy ymgynghoriad wedi’i ariannu’n llawn, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar eich gweithlu ar hyn o bryd, a’r rhai y bydd eu hangen arno mewn blynyddoedd i ddod. Bydd ein tiwtor yn cyflwyno’r hyfforddiant, wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, mewn ffordd sy’n sicrhau bod eich gweithwyr a’ch busnes yn gweithredu ar eu gorau, pa bynnag gam y maent o ran bywyd a gyrfa.
Bydd eich pobl hefyd yn cael mynediad at ein Sgyrsiau Tech; yr holl fewnwelediadau technoleg diweddaraf gan arbenigwyr y diwydiant, oherwydd mae ein llygad yn fawr iawn ar y dyfodol. Rydym yn canolbwyntio ar y datblygiadau mwyaf newydd a mwyaf cyffrous mewn Diwydiant 4.0, Gweithgynhyrchu Digidol, a Ffatrïoedd Clyfar. Rydym ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi, eisoes un cam ar y blaen ac yn rhagweld beth sydd i ddod. A byddwn yn helpu i sicrhau bod eich busnes yn barod ar ei gyfer.
Ar y cyd, mi fedrwn.