Yn hyblyg, yn gryno ac yn ymarferol, mae ein cyrsiau hyfforddi wedi’u llunio i weddu i’ch pobl a’ch nodau. Drwy ymgynghoriad wedi’i ariannu’n llawn, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar eich gweithlu ar hyn o bryd, a’r rhai y bydd eu hangen arno mewn blynyddoedd i ddod. Bydd ein tiwtor yn cyflwyno’r hyfforddiant, wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, mewn ffordd sy’n sicrhau bod eich gweithwyr a’ch busnes yn gweithredu ar eu gorau, pa bynnag gam y maent o ran bywyd a gyrfa.
cyflwyno’r rhaglen
Partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yw Medru: Y Ffatri Sgiliau.
dargynfyddwch gelfyddyd y posibl gyda’n hystod o sgyrsiau technoleg awr o hyd sydd wedi’u hanelu at ddatrysiadau diwydiant 4.0 newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg
Mae’r arbenigedd sydd gennym rhyngom ym meysydd diwydiant ac addysg yn golygu ein bod mewn sefyllfa berffaith i arfogi pobl a busnesau â’r sgiliau y mae arnynt eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Mae’r sgiliau hyn yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf a mwyaf cyffrous yn Niwydiant 4.0