Amdanom ni

Rydym ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi, ac yn gwybod beth mae angen i fusnesau ei wneud i baratoi eu gweithluoedd er mwyn ymateb i heriau’r dyfodol ac i fanteisio ar gyfleoedd.

Gwyddom fod angen i hyfforddiant fod yn hygyrch. Mae angen iddo ddarparu ar gyfer pawb. Mae angen iddo ffitio o amgylch gwaith a bywyd. Dyna pam mae ein hyfforddiant ni yn eang ac yn hyblyg, ac y bydd ef bob amser. Fe’i cynlluniwyd gyda’r gweithlu llawn mewn golwg, o ddechreuwyr newydd i arbenigwyr technegol gyda degawdau o brofiad yn y diwydiant. Nod Medru yw rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni sgiliau a gwybodaeth dechnegol werthfawr o Ddiwydiant 4.0, a bydd yn helpu i lenwi bwlch sgiliau mewn diwydiant.

Yr uchelgais yw y bydd Medru yn cynnig hyfforddiant Diwydiant 4.0 ledled gogledd-ddwyrain Cymru, gan gefnogi busnesau a phobl yn eu dyheadau, a chreu llif o dalent ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn seiliedig i ddechrau ar naw colofn Diwydiant 4.0:

Naw colofn Diwydiant 4.0

Simulation Industry 4.0

Efelychu

Big Data Industry 4.0

Data Mawr

IOT Industry 4.0

Rhyngrwyd Pethau

Autonomous robots Industry 4.0

Robotiaid Awtonomig

Cloud Computing Courses

Cyfrifiadura yn y Cwmwl

System Integration Courses

Integreiddio Systemau

Cybersecurity Industry 4.0

Seiberddiogelwch

3D printing Industry 4.0

Gweithgynhyrchu Adiol (Argraffu 3D)

Augmented Reality Courses

Realiti Estynedig