
Mae’r cwrs DPP ar-lein hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â’r materion diweddaraf sy’n ymwneud â thwf Deallusrwydd Artiffisial (AI). Byddwch yn archwilio’n feirniadol y materion hanesyddol, moesegol a chymdeithasol sy’n ymwneud â’r dechnoleg hon o fewn cymdeithas, a byddwch yn clywed gan amrywiaeth o leisiau ar sut i fynd i’r afael â’r materion hyn, o weithredwyr ac arbenigwyr i gorfforaethau technoleg, cyrff anllywodraethol a’r llywodraeth.
mynegiant o ddiddordeb
Cwblhewch y ffurflen hon i fynegi diddordeb mewn mynychu’r cwrs hwn. Cyn gynted ag y bydd dyddiadau wedi’u cadarnhau ar gyfer eleni byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o fanylion.